Y TRAETHODYDD. AM Y FLWYDDYN 1849. LLYFR V. DINBYCH: ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN THOMAS GEE. LLUNDAIN: HUGHES, ST. MARTIN'S LE GRAND. MDOOOXLIX. DANGOSEG. IONAWR, Yr Oes hon, Tudal. 5 14 21 41 44 52 56 58 73 84 86 108 117 118 · 126 132 · 137 EBRILL, . Cymhwysderau & Gwaith y Weinidogaeth, 141 156 166 177 184 191 · 205 218 · 223 233 236 243 247 248 254 255 264 267 Y TRAETHODYDD. YR OES HON. SYRTHIODD coelbren ein bywyd ni, yn yr oes hon, ar y cyfnod mwyaf pwysig, ac ystyried pobpeth efallai, o ddyddiau amser. Dygwyd y byd, drwy y diwyllio a'r perffeithio fu ar y celfyddydau yn ystod y deng-mlynedd-arhugain diweddaf, i gyflwr ac agwedd hollol newydd a gwahanol i'r hyn oedd o'r blaen. Erioed ni roddodd y natur ddynol y fath brofion ymarferol o'i mawredd a'i hurddas ag a roddodd yn yr ystod hwn o amser. Ni ddaethai i galon dyn erioed cyn hyny, bod y fath gyflawnder o ddarbodion cyfleusderau bywyd wedi eu trysori ar ei gyfer yn adnoddau naturiaeth. Dygodd ysbryd anturiaethus ac athrylith gelfyddgar yr oes bresennol i'r golwg lawer o ddirgeledigaethau anadnabyddus i'r oesau blaenorol. Cafwyd amlygiadau newyddion o fawredd a doethineb yr Hwn sydd ardderchog yn ei waith yn nghyfansoddiad elfenau anian, ac yn nghyfansoddiad meddwl y creadur a osododd efe ar weithredoedd ei ddwylaw. Ymddengys bod y dyn yn awr wedi gosod ei feddylfryd yn benderfynol ar ëangu cylch ei lywodraeth a'i ddylanwad ar y byd. Ni foddlonir ef ar arglwyddiaethu ar " defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd, adar yr awyr, a physgod y môr, pob natur gwylltfilod,” i'w dàl a'u dofi; ond myn ddarostwng yr elfenau oll hefyd dan wriogaeth a theyrnged iddo. Y mae yr oes yn mawredd ei darganfyddiadau, llwyddiant ei dyfeisiau, a ffrwyth ei hymchwiliadau, yn syndod iddi ei hun. Ond у mae ysbryd, athrylith, a nodwedd oes, yn cael eu rhaglunio gan amgylchiadau a dygwyddiadau yr oes, yn hytrach yr oesau, blaenorol iddi. Yn hyn eto "y mae y gair yn wir, mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi-eraill a lafuriasant, a ninnau ydym yn myned i mewn i'w llafur hwynt." Cynnyrch yr hadau a hauodd Bacon yn neillduol, yn nyddiau Elizabeth a lago y Cyntaf, ydyw y cynauaf mawr o gelfyddydau ffrwythlawn yr ydym ni yn ei fedi ac yn ei gasglu y dyddiau hyn. Rhoddodd y meddwl galluog hwnw dro a chyfnewidiad trwyadl ar amgylchiadau a helyntion y byd. Tynodd i lawr hyd y sylfaen hen deml yr athroniaeth Roegaidd, yr hon à gysegrasid gan barchedigaeth oesau, a lle y buasai doethion a dysgedigion cenedlaethau lawer yn cyflawni eu defosiynau. Cynsail athroniaeth y Platoniaid a'r Stöiciaid ydoedd,—bod dedwyddwch a gogoniant uchaf dyn yn gynnwysedig mewn ymdebygoliad i'r duwiau, y rhai a ddesgrifient yn hollol ddiofal a dideimlad o dda a drwg tymmorol y byd hwn. Er bod ganddynt law yn eu danfoniad, a llywodraeth drostynt, nid oeddynt yn meddu yr ystyriaeth na'r ZONAWR, 1849.] B |