Page images
PDF
EPUB

Heblaw y berthynas anghenrheidiol rhwng Creawdwr a chreadur, fe welodd yr Arglwydd yn dda ddwyn Israel i berthynas âg ef ei hun, gwahanol i bawb erioed. Gelwir hwy yn gyntaf-anedig yr Arglwydd;1 eiddo iddynt hwy oedd y mabwysiad;2 am eu dwyn, nid trwy hawl, ond o ddewisiad, i berthynas neillduol â Duw. Gwnaeth Israel yn drysor priodol, er mai eiddo iddo ef ydoedd yr holl ddaear.3 "Wele," meddai Moses, "y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw, y ddaear hefyd, a'r hyn oll sydd ynddi. Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt."4 Mabwysiad cenedl ydoedd hwn. Yr oedd yn y mabwysiad hwn berthynas ddeublyg-eglwysig a gwladol. Cyfansoddodd yr Arglwydd y genedl hon yn eglwys; yr oedd ar y cyfrif hwn yn genedl sanctaidd, ac yn freniniaeth o offeiriaid. Ni fu yr un genedl o'r blaen yn sefyll yn y fath berthynas, ac nid oes le i ddysgwyl y bydd yr un byth mwy. Yr oedd ffurf eglwysig yn hanfodol i'r genedl yn ol y cyfansoddiad a roddwyd iddi. Ni allai hanfodi fel cenedl gorfforedig, a mwynhau ei chyfreithiau a'i llwyddiant, heb fod yn eglwys. Nid ydym yn meddwl wrth hyn fod holl Israel yn gadwedig, na bod neb o honynt felly, ar y cyfrif hwn. Mae cadwedigaeth ysbrydol yn beth personol; ac ni all berthyn nac i eglwys, nac i wlad, yn ei ffurf gorfforedig. I fod yn eglwys y cyfansoddwyd Israel yn genedl; a thra y gwasanaethai Israel i enw ac addoliad Duw, fel eglwys iddo, yr oedd yn cael ei hamddiffyn fel gwladwriaeth. Eglwys ddirgeledig ydyw ffyddloniaid pob oes a gwlad, yn eu ffurf gyfansoddedig: ond eglwys weledig ydyw corff o bobl wedi eu neillduo at achos ac addoliad yr Arglwydd, y rhai a ddygant ei enw, ac a ymarferant â'i ordinhadau. Y cyfryw oedd Israel. Gwahaniaethai oddiwrth bob eglwys arall a fu erioed, neu a fydd byth, am fod yr elfenau eglwysig wedi eu gosod, nid mewn teuluoedd fel cynt, nae mewn cynnulleidfaoedd gwirfoddol, fel yn awr, ond yn nghyfansoddiad sylfaenol y wladwriaeth.

Oddiar yr olwg yma ar wedd eglwysig Israel, y gwelwn hefyd yr anghenrheidrwydd a'r priodoldeb fod y wladwriaeth dan lywyddiaeth Duw ei hun. Yr un un oedd Brenin y wlad a Duw y genedl. Yr oedd addoli Duw arall yn deyrnfradwriaeth, ac yn cael ei gosbi â marwolaeth. Nid oedd i Israel yr un brenin, mewn ystyr priodol, ond Duw. Dirprwywyr oedd eu llywyddion; pa un bynag ai barnwyr ai breninoedd y gelwid hwy. Nid gosodwyr cyfraith oeddynt, ond gweinyddwyr. Un gosodwr cyfraith a fu ganddynt, a hwnw ydoedd gwrthddrych eu haddoliad.

Drachefn, y mae yn hawdd canfod y rhoddai y ddwy berthynas uchod sail i ddau fath o gyfreithiau. Un math yn perthyn i addoliad eu Duw, a'r math arall yn perthyn i orsedd eu Brenin. Gelwir hwy gan dduwinyddion yn seremonïol a barnol. Cydblethid y deddfau hyn gymaint yn eu gilydd, fel na ellir, bob amser, wahaniaethu i ba ddosbarth y bydd pob deddf yn perthynu. Nid oedd yma chwaith un perygl fod ufudd-dod i'r un wladol yn arwain neb ar draws yr un eglwysig; a chydwybod i'r un Arglwydd a barai ufudd-dod i'r ddwy. Yr oedd y ddwy gyfraith, y farnol a'r seremonïol, yn sylfaenedig ar y ddeddf foesol, yr hon a roddwyd gyd â'r fath rwysg a mawredd yn gyntaf oll, pan y sefydlwyd cyfammod Sinai. Mac deddf foesol Duw, yr hon a gynnwys egwyddorion digyf

1 Exod. iv. 22. 2 Rhuf. ix. 4.

3 Exod. xix. 5.

4 Deut. x. 14, 15.

newid sancteiddrwydd ac uniondeb, yn rheol pob cyfansoddiad a goruchwyliaeth o'i eiddo. Y mae y ddeddf hon yn bortread o'i natur bur a chyfiawn, ac ni all un ysgogiad o'i eiddo ef fod yn wrthwyneb iddi, oblegid gwadu ei hun a fyddai hyny. Yr oedd y ddeddf foesol yn rheol y cyfansoddiad a wnaed âg Adda; yr oedd anrhydedd hon yn cael ei amcanu yn y cyfammod tragywyddol, sef y cynghor hedd a fu rhwng Arglwydd y lluoedd a'r Blaguryn; mae egwyddorion hon i lywodraethu eglwys Dduw dan y Testament Newydd ; ac mewn cydffurfiad perffaith â'r egwyddorion hyn y bydd dedwyddwch y saint mewn gogoniant yn gynnwysedig. Fe ddichon, mae yn wir, fod egwyddorion y ddeddf, sef cariad at Dduw a dyn, yn gwahaniaethu graddau mewn ffurf, yn ol yr amlygiad a ddyry Duw o'i ewyllys, ac yn ol y sefyllfa neillduol y gosodir y dyn ynddi. Felly fe ddichon y bydd ffurf newydd ar ofynion y ddeddf yn y nefoedd, gwahanol, nid gwrthwyneb, i'w ffurf ar y ddaear, heb fod un newidiad ar ei hegwyddorion.

y

Yr oedd y ddeddf foesol yn gorwedd yn anrhydeddus yn nghyfammod Sinai. Llefarwyd y deng air yn gyntaf gyda mawrhydi ofnadwy; ysgrifenwyd hwy â bŷs Duw, ar lechau ceryg, a gorchymynwyd eu rhoddi yn yr arch, sef arch y dystiolaeth, i'w cadw y lle anrhydeddusaf a feddai Jehofa ar y ddaear. Corfforwyd egwyddorion y ddeddf foesol yn y gyfraith seremonïol a'r farnol. Y ddeddf foesol oeddynt, wedi ei chyfaddasu at amgylchiadau Israel fel eglwys a gwladwriaeth. Yr oedd y gyfraith seremonïol yn sylfaenedig ar y llech gyntaf, ac yn golygu gwrthddrych, dull, cynnwys, ac amser addoliad. Yr oedd y gyfraith farnol, yr un modd, yn sefyll ar egwyddorion yr ail lech, wedi eu cyfaddasu at amgylchiad Israel fel gwladwriaeth, i'r hon yr oedd Duw ei hun yn Frenin. Yr oedd yn y deddfau a'r barnedigaethau hyn liaws o osodiadau priodol i Israel yn unig; gosodiadau nad ydynt rwymedig ar neb arall, nac ar Israel ychwaith ar ol terfynu y Theocracy. Eto yr oeddynt oll yn gyson âg egwyddorion gwreiddiol y ddeddf foesol. Ac er nad ydym ni, na neb arall, yn ddarostyngedig i'r ddeddf yn y ffurf hyny arni a berthynai i eglwys a gwladwriaeth Israel, nid ydym oblegid hyny i dybied fod un newidiad na gwanychiad ar y ddeddf ei hun. Yr amgylchiadau a newidiasant, ac nid egwyddorion y ddeddf. Gosoder dwfr mewn llestr ysgwâr, a ffurf ysgwâr a fydd ar y dwfr; ac os crwn a fydd y llestr, crwn hefyd fydd ffurf y dwfr. Yr oedd amgylchiadau Israel dan gyfammod Sinai yn amgylchiadau neillduol a hynod, i barhau dros amser terfynol, ac i ateb dybenion neillduol; a than yr amgylchiadau neillduol hyny nid oedd modd i egwyddorion gwreiddiol y ddeddf gymeryd amgen ffurf na'r un a wnaeth yn y gyfraith seremonïol a barnol, mwy na'r dwfr gymeryd un ffurf ond yr un priodol i'r llestr y tywelltir ef iddo.

Drachefn, yr oedd cysylltiad neillduol rhwng cyfammod Sinai a gwlad Canaan. Yr oedd ffurfiad eglwysig, a chyfansoddiad gwladol y genedl hon, yn perthyn yn hanfodol i'r wlad hono. Nid oedd sefyllfa Israel yn yr anialwch ond un gychwynol. Llygadai cyfammod Sinai ar Ganaan. Nid oedd lliaws o'r cyfreithiau a roddwyd iddynt ddim yn briodol i'r anialwch. Nid oedd y rheolau ynghylch bwyd, a dillad, ynghylch triniad eu tir, ac adeiladiad eu tai, ynghylch y gŵyliau nodedig, pryd yr oeddynt i ymddangos yn Jerusalem, ac ynghylch dinasoedd y Lefiaid, a lliaws o bethau cyffelyb, ddim yn perthyn, o anghenrheidrwydd, i fan yn y byd, ond i wlad yr addewid.

Addawsid y wlad hon i'r tadau trwy lw. Fe fu Abraham, Isaac, a Jaco feirw mewn ffydd yn ngwirionedd Duw, y rhoddid y wlad dda odiaeth y. 1 etifeddiaeth i'w hiliogaeth; ac mewn ffydd hefyd y caent hwy eu huna etifeddu gwlad well na Chanaan, o'r hon nid oedd Canaan ond cysg Y cwbl ag oedd yn anghenrheidiol i ddwyn y genedl i'r etifedding addawedig oedd ffydd yn Nuw. O ddiffyg yr ymddiried yma yn ngaliu : gwirionedd y Jehofa, fe syrthiodd y genedlaeth hono a ddaethai o'r Aine? yn fyr o'r orphwysfa. Ni allent hwy fyned i mewn oblegid anghreditiaeth. Trwy anghrediniaeth y dyfethwyd un genedlaeth yn y diffaethwch: aeth y genedlaeth arall, trwy ffydd, i mewn i Ganaan.

Yn nghyfammod Sinai fe osodwyd hawddfyd ac adfyd, llwydd neu aflwydi y genedl i orwedd yn gysylltiedig â Chanaan. Yr oedd addewidion y cyfammod yn dwyn perthynas â'r wlad hon, a'r un modd y bygythian Gwaredigaethau blaenorol a wnaed iddynt fel cenedl, a llwydd neu aflwydd dyfodol cysylltiedig â'r wlad a addawsid i'w tadau, oedd y cymhelliadau a ddefnyddid wrth alw am ufudd-dod i'r cyfreithiau. Mewn gwirionedd, cyfammod â chenedl gorfforedig ydoedd; gwladwriaeth oedd wedi ei chyfansoddi yn eglwys, neu eglwys yn wladwriaeth. Defnyddir y cymwynasau a gawsant fel cenedl yn fynych i'r dyben o'u galw at eu dyledswyddau. Argymhellir ufudd-dod arnynt, trwy gyfeirio at y waredigaeth o wlad yr Aipht, ac o dý y caethiwed-yr ymwared a gawsant wrth y Môr Coch-y nodded a gawsant dros ddeugain mlynedd yn yr anialwch-y darostwng a fu ar y Canaanëaid o'u blaen-a'r planu a fu arnynt hwythau yn eu lleyr anrhydedd oruchel o gael Duw yn eu mysg, cael ei enw arnynt, cael hysbysiad o'i ewyllys, a chael ei amddiffyniad drostynt. Cymhellid hwy i ufudd-dod hefyd, gydag edrych ar waredigaethau blaenorol, trwy osod o'u blaen y llwyddiant a ganlynai ufudd-dod, a'r aflwydd a ddisgynai arnynt am anufudd-dod. Gan mai yn eu ffurf gorfforedig fel cenedl yr oedd a wnelai y cyfammod â hwy, y mae yn anhawdd dychymygu pa fodd y gallasai pethau fod, ond yn y wedd hon. Yr oedd yma bortread neillduol o'r modd y mae yr Arglwydd yn cyfarch personau dan bob goruchwyliaeth, sef adgoffa cymwynasau a dderbyniwyd, a dadgan pa beth sydd i'w ddysgwyl mewn amser dyfodol. Mae cymwynasgarwch Duw yn Nghrist Iesu, yn annogaeth gref i sancteiddrwydd; ac nid yw ceryddon Duw yma, na thaledigaeth y gwobrwy draw, ddim yn bethau dibwys. Yn nghyfammod Sinai yr oedd y cymhelliadau hyn yn cyfodi oddiar amgylchiadau tymmorol, a pherthynol i'r bywyd hwn; ac ni allai fod yn amgen, gan mai à chenedl yn ei ffurf gorfforedig y gwnaethpwyd ef.

Ymhellach, fe welir oddiar yr ystyriaethau blaenorol mai nid cyfammod am fywyd tragwyddol oedd cyfammod Sinai. Yn hyn yr oedd yn gwbl wahanol i'r cyfammod a wnaed âg Adda: gwahanol hollol o ran ei ddyben, er ei fod yn gyffelyb o ran ffurf. Dyben y cyfammod âg Adda oedd sierhau bywyd tragwyddol iddo ef a'i hiliogaeth, ond yn hwn nid oedd dim o'r fath beth. Dyben uniongyrchol hwn oedd llwyddiant tymmorol yn ngwlad eu hetifeddiaeth. Yr oedd yma ddybenion eraill i'w hateb trwy y dyben hwn megys cadw y genedl ar wahan oddiwrth genedloedd y byd-cynnal addoliad y gwir Dduw, ac adnabyddiaeth o hono yn nghanol enciliad cyffredinol-parotoi ffordd y Messiah, a thrwy hyny wasanaethu yr addewid a roddasid yn Eden, ac a adnewyddwyd i Abraham. Mae ffordd bywyd tragwyddol yr un yn mhob oes a gwlad. Ffydd yn Nghrist sydd yn cadw.

Ffydd yn yr addewid am dano oedd yn cadw gynt, a ffydd yn y dystiolaeth sydd yn cadw yn awr. Yr un gwrthddrych sydd i ffydd trwy holl oesoedd y byd, yn unig ei bod yn edrych yn ol yn awr trwy dystiolaeth ar y Messiah wedi dyfod, pryd yr oedd yn edrych ymlaen gynt, trwy yr addewid, am dano i ymddangos. Nid oedd achos bywyd tragwyddol y credinwyr gynt yn dibynu mewn un modd ar amgylchiadau y genedl, fel deiliaid o gyfammod Sinai. Am eu bywyd, etifeddion yr addewid oeddynt; am eu Ilwyddiant gwladol ac eglwysig, deiliaid oeddynt o gyfammod Sinai. Gallent, gan hyny, fwynhau cysur yr addewid, a dyoddef gŵg y cyfammod ar yr un pryd. A diammheuol fod yn Israel lawer o ddynion, o bryd i bryd, yn heddwch Duw, ac yn mwynhau ei gymdeithas, pryd yr oeddynt yn cydgyfranogi yn aflwydd cyffredinol y genedl. Yr oedd llawer o dduwiolion yn eu mysg yn Babilon; lle y dyoddefent gystudd am dori y cyfammod, ac a fwynhaent gysur ysbrydol ar yr un pryd. O'r ochr arall, nid oedd llwyddiant y genedl yn un sierwydd o lwyddiant ysbrydol personau neillduol. Nid Israel oedd pawb ag oedd o Israel. Nid oedd cyfammod Sinai, ynte, mae'n eglur, ddim yn golygu achos bywyd tragwyddol y genedl.

Ond er mai llwydd neu aflwydd tymmorol Israel, a hyny fel cenedl, a olygid yn briodol ac uniongyrchol yn y cyfansoddiad Moesenaidd hwn, eto rhoddwyd iddo y fath ffurf ag a bortreadai achos bywyd pechadur yn ei berthynas â'r ddeddf a'r efengyl. Yr oedd yma arddangosiad o'r ddeddf fel ammod bywyd, a chysgod o'r efengyl fel moddion iachawdwriaeth. Ail-ddangosai yr hyn a fu yn Adda, a rhag-ddangosai yr hyn oedd i ddyfod yn Nghrist. Nid y cyfammod gweithredoedd ydoedd, ac nid y cyfammod gras ydoedd ; eto yr oedd ynddo arddangosiad o'r ddau. Ni allai cyfammod Sinai fod yr un a'r cyfammod gweithredoedd, gan nad oedd hwnw yn gyfaddas i neb ond i greadur perffaith a dilwgr. Nid oedd hwnw ychwaith yn abl i roi bywyd i ddyn ar ol unwaith ei golli, ond i'w gadw ar ol ei gael. Nid y cyfammod gras ychwaith oedd hwn, gan ei fod yn cael ei gyferbynu i'r cyfammod gras gan yr apostol yn yr epistol at yr Hebreaid. Gelwir y cyfammod newydd yno yn gyfammod gwell, wedi ei osod ar addewidion gwell, ac o'r hwn y mae yr Iesu yn Gyfryngwr. A dywedir yno yn benodol am y cyfammod a wnai yr Arglwydd â thŷ Israel ac â thŷ Judah, yn nyddiau yr efengyl; mai un fyddai, nid fel y cyfammod a wnaethai efe â'u tadau hwynt, yn y dydd yr ymaflodd yn eu llaw hwynt, i'w dwyn hwynt i fynu o dir yr Aipht. Gelwir y naill, y cyfammod cyntaf, a'r llall yr ail y naill yn hen, a'r llall yn newydd. Y mae yn cael ei wahaniaethu hefyd oddiwrth yr ammod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yn Nghrist, sef yr addewid a wnaethai Duw i'r tadau.

Wrth olygu cyfammod Sinai fel cyfansoddiad gwladol yn unig, wedi ei osod arnynt gan yr Arglwydd fel Llywydd y wladwriaeth, ac yn cynnwys dim ond bendithion tymmorol, a'r rhei'ny i'w mwynhau yn ol cynllun y cyfammod gweithredoedd, ar yr ammod o ufuddhau i'r deddfau a'r barnedigaethau, ni a welwn briodoldeb yn y gwrthgyferbyniad a ddyry yr apostol o'r ddau gyfammod. Yn yr olwg yma yr oedd y cyfammod gras, o dan oruchwyliaeth yr efengyl, yn gyfammod cwbl newydd, ac wedi ei osod ar addewidion gwell-addewidion o fendithion ysbrydol a nefol, i'w hetifeddu

[blocks in formation]

ar ammodau rhad ac esmwyth. Ond os cymerwn gyfammod Sinai mewi ystyr helaethach, yn cynnwys yr holl oruchwyliaeth Iuddewig, ac yn dwy perthynas âg achos ysbrydol a thragwyddol yr Israeliaid, nid yn hollol, ond ar ryw gyfrifon y gellir galw goruchwyliaeth yr efengyl yn gyfammod newydd, ac wedi ei osod ar addewidion gwell. Ar gyfrif fod ynddo fwy o oleuni, rhyddid, a phurdeb; ar gyfrif fod ei ordinhadau yn fwy ysbrydo a'i ddeiliaid yn fwy lliosog, fe ellid ei alw felly. Ar yr un tir y gelwir y gorchymyn i garu ein gilydd yn orchymyn newydd, am ei roddi gydag eglurhad newydd, a chyda chymhelliadau newyddion. Wrth gymeryd yr olwg ëang hon ar gyfammod Sinai, fel yn cynnwys yr holl oruchwyliaeth yr oedd yr Israeliaid dani, nid oedd amgen na'r cyfammod gras, wedi ei amwisgo gan dywyllwch a dychryn a berthyn i oruchwyliaeth ddeddfol; ac wrth y cyfammod gwell, a'r cyfammod newydd, y mae i ni ddeall yr un cyfammod o ras, dan gyhoeddiad eangach, dysgleiriach, mwy ysbrydol, a mwy gogoneddus o hono. Dwy oruchwyliaeth ydoedd o'r un cyfammod: y naill yn nodedig am yr ysbryd gwasaidd a gynnyrchai, a'r llall am yr ysbryd mabaidd, trwy yr hwn yr ydym yn nesâu at Dduw.

Dywedasom fod y ddeddf a'r efengyl wedi eu rhoddi o fewn y cyfammod hwn, fel trysor mewn llwch, neu gnewyllyn mewn plisgyn, eto ynddo ei hun nid oedd yn golygu ond pethau tymmorol-pethau y genedl yn ei pherthynas â Duw fel ei Brenin gwladol, ac yn ei pherthynas â gwlad Canaan. Meddai Dr. Owen, "Ond o ran yr hyn a feddai o'i eiddo ei hun, cyfyngwyd ef at bethau tymmorol. Cadwyd credinwyr dano, eto nid trwyddo. Collwyd pechaduriaid yn dragwyddol dano, ond trwy felldith hen ddeddf gweithredoedd yr oedd hyny." Ond er mai dyma oedd cyfammod Sinai fel cyfammod o neillduolrwydd, eto fe gorfforwyd ynddo y ddeddf a'r efengyl; y gyntaf yn ei gofynion llymion, a'r olaf mewn cysgodau tywyll. Rhoddwyd ynddo le mawr i'r ddeddf fel ammod bywyd. "Canys y mae Moses yn ysgrifenu am y cyfiawnder sydd o'r ddeddf, mai'r dyn a wnel y pethau hyny a fydd byw trwyddynt." Arddangosai mai mewn perffeithrwydd yr oedd bywyd y dyn a fynai ymgyfiawnhau yn y ddeddf. Yr oedd i Israel fywyd yn Nghanaan ar sail ufudd-dod; ailargraffiad oedd hyn o'r cyfammod gweithredoedd, neu o'r ddeddf fel ammod bywyd. Nid oes gan y ddeddf fyth, fel ffordd i fywyd, ond ardystio "mai y dyn a wnel y pethau hyn a fydd byw trwyddynt," a "melldigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau hyny." Cyhoeddwyd y telerau hyn ar Sinai, nid gyda golwg ar i Israel gyrhaedd ffafr Duw, a bywyd tragwyddol, trwyddynt, ond i'r dyben i ddangos iddynt yr anghenrheidrwydd am Gyfryngwr-i ddangos pa mor ofer oedd eu cais i ymgyfiawnhau yn y ddeddf, ac i'w dysgu i werthfawrogi yr efengyl a gyhoeddwyd o'r blaen i Abraham, sef yr ammod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yn Nghrist.

Yn yr oruchwyliaeth hon yr oedd amlygrwydd ac arbenigrwydd yn cael ei roddi i'r ddeddf, yn ei gofynion manwl, ac yn ei melldithion trymion. Gwnaed hyn i osod allan ar ba dir yr oedd i greadur rhesymol fwynhau bywyd a flafr Duw, nad oedd dim llai na pherffeithrwydd a atebai y dyben; fod y pall lleiaf yn ei osod yn agored i felldith, a thrwy hyn i ddangos i Israel eu sefyllfa euog a cholledig ar dir y ddeddf. Dangosid yma hefyd,

1 Rhuf. x. 5.

« PreviousContinue »