ei gwasanaeth, y frenines yn ben, y boneddigion o'r pendefigion uchaf hyd at yr esquires lleiaf yn ymffrostio eu bod yn aelodau, ac er y cwbl y mae crefydd yn ddibaid "mewn perygl." Gwir a ddywed ysgrifenydd galluog ar hyn :-" Y mae anymddiried yr eglwyswr yn ei gyfundrefn yn rheswm cryf yn ei herbyn. Y mae ei alarnad yn profi ei fod yn ymwybodol o'i gwendid; y mae ei waith yn llefain 'perygl' yn ei chondemnio. Pe b’ai o Dduw, ni lwyddai yr un offeryn a lunid yn ei herbyn; nis gallai cydruthriad gelynion ei dinystrio. Y mae llawer o debyg fod rhyw ddirgel syniad yn eu calonau fod bys Duw wedi ysgrifenu Tecel ar fur eu cyfundrefn." Gellir dywedyd yn hyf fod yn anmhosibl i'r grefydd a sefydlodd Crist fod mewn perygl, canys y mae Craig yr Oesoedd yn sylfaen iddi. Y mae Arglwydd y lluoedd yn noddfa ac yn amddiffynfa iddi. Pe byddai holl dywysogion y byd yn ymosod yn ei herbyn, mae y Tywysog mawr yn sefyll drosti; a pha flinderau bynag a ddygwydd ar y ddaear, troant allan oll yn fantais i grefydd bur. Noson flin oedd noson lladd y cyntaf-anedig; ond hono oedd yr olaf i Israel Duw fod yn y caethiwed. Bydd y blinderau yn foddion gwaredigaeth. Gorthrymder dinystr Jerusalem a gymerodd allu yr Iuddewon i erlid crefydd Crist oddiarnynt. Nid oes achos i ddilynwyr yr Oen ofni y dyddiau hyn; y mae y pethau sydd yn dygwydd ar y ddaear yn prysuro eu gwaredigaeth. Yr oedd syniadau Dr. Owen yn ardderchog am ddiogelwch crefydd Crist yn yr ystormydd mwyaf. Y diwrnod cyn ei farw, dywedodd fel y canlyn;-"Yr ydwyf yn gadael yr eglwys mewn ystorm; ond tra mae'r Pilot mawr ynddi, ni bydd ond colled fechan am Is-rwyfwr tlawd. Gweddiwch, gobeithiwch, a dysgwyliwch yn amyneddgar. Y mae yr addewid yn sefyll yn ddïanwadal, na bydd iddo ein gadael na'n gwrthod." Gallai cofio yr ymadroddion uchod fod yn dra buddiol i'r llwfr a'r ofnus; ac ni byddai yn un niwed i rai hen weinidogion eu cerfio ar byst eu tai, a chredu y gall crefydd fyw a chynnyddu wedi iddynt hwy fyned adref. 2. Y mae tuedd cryf mewn dynion pan y mae ysbrydolrwydd a grym crefydd yn colli i geisio gwneyd y diffyg i fynu trwy ryw ddyfais o'r eiddynt eu hunain. Yr oedd athrawon newydd Corinth yn ceisio cyflawni y diffyg â godidowgrwydd ymadrodd, a doethineb ddynol. Yr oeddynt yn arfer dyfais i dynu dysgyblion ar eu hol. Onid oes llawer yn ein dyddiau ninnau yn ceisio gwneyd y diffyg i fynu â thraddodiadau, defodau rhwysgfawr, adeiladau gorwych, offer cerdd, a theitlau goruchel? Lle bynag y mae gorhoffder mewn defodau a rhwysg allanol, y mae yn arwydd lled amlwg fod grym crefydd yn colli. Gall cyfundeb barhau yn hir trwy rym cyfraith, neu odidowgrwydd ymadrodd, neu ddefodau rhodresgar yn swyno y coelgrefyddol a'r anwybodus; ond nid crefydd y Testament Newydd ydyw hyn. Sylwasom, lawer gwaith, pan y mae pwys mawr yn cael ei roddi ar ddefodau allanol, fod y peth mawr sydd yn cyfansoddi crefydd iawn yn brin. Y mae llawer o debyg fod rhai yn ein hoes yn sefyll mwy ar y dull o fedyddio nag ar edifeirwch, ffydd, gobaith, cariad, a sancteiddrwydd buchedd. Y mae y zel yn fwy tros ddefod ammheüus na thros bethau amlwg crefydd Crist. Pe byddai yr apostol Paul yn ymweled â'r nulleidfaoedd hyn, fe ddywedai, "Enwaediad nid yw ddim, a dïenwaedyw ddim, ond cadw gorchymynion Duw: canys yn Nghrist Iesu vaediad ddim, na dïenwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad." hoddi lle y pethau mwyaf i'r pethau lleiaf yn brawf o adfeiliad mewn crefydd. Pan yr oedd ysbrydolrwydd crefydd yn colli yn mysg yr Iuddewon, yr oeddynt yn rhoi mwy o bwys ar ddefodau allanol nag ar garu Duw a chadw ei orchymynion. Yr oedd ymostwng i ddefod yr enwaediad, yn ol eu tybiaeth, yn eu codi i ffafr Duw, ac yn eu diogelu rhag uffern, pa fodd bynag yr ymarweddent. Gan hyny, gellir casglu mai olynwyr y Phariseaid yw y rhai sydd yn rhoi mwy o bwys ar ddefodau allanol nag ar ffydd, a chariad, a rhodiad sanctaidd. Gofaled gweinidogion y cysegr roddi pob peth yn eu priodol le fel y mae prawf-reol crefydd yn eu rhoddi. 3. Wrth ddybenu, y mae yn rhaid tystio mai crefydd Crist yw yr unig foddion effeithiol i wellhau dynolryw. Y mae gwraidd drygau y byd yn rhy ddwfn i unrhyw beth oddiallan allu eu gwellhau. Rhaid i'r feddyginiaeth dreiddio i'r enaid, a newid naws y galon. A pheth a all wneyd hyn ond crefydd Crist? Y mae llygredd y natur ddynol wedi gwneyd gwawd o bob peth arall. Mae wedi dryllio pob rhwymau o ddyfais dyn. Mae amcanion Cymdeithas Heddwch yn dra chanmoladwy, a dylem wneyd ein goreu o'i phlaid; ond y mae balchder, ac ariangarwch, ac ysbryd dial yn rhy gryfi unrhyw gymdeithas. Y mae enw o grefydd yn gadael dynion yn sychedig am waed eu gilydd; canys y mae yn gadael y gwraidd heb gyffwrdd â hwy. Grym crefydd a wna ddynolryw yn un frawdoliaeth dangnefeddus, a chariad yn rhwymyn am dani. Y mae crefydd yr efengyl wedi rhoi digon o brofion o'i heffeithiolrwydd i adferu a gwellhau y rhai gwaethaf o ddynolryw. Y mae yn effeithio ar agwedd gwlad, er y bydd ynddi lawer heb dderbyn ei hegwyddorion i'w calonau. Hyn sydd yn gwneyd Cymru yn amgenach na'r Iwerddon. Y mae effeithiau crefydd ar bersonau unigol a theuluoedd yn brawf o'i rhinwedd. Gwnaeth crefydd Crist lawer o gybyddion yn hael, a'r dïalgar yn faddeugar; gwnaeth saint enwog o bechaduriaid aflan; gwnaeth lawer un anfuddiol yn fuddiol. Y mae wedi dwyn hapusrwydd i lawer teulu; cyn dyfodiad crefydd yr oedd anghariad ac ymrafaelion yn wermod ar bob peth, ond wedi dyfodiad crefydd Crist i'r tŷ, y mae cariad yn teyrnasu, ac y mae hapusrwydd a rhinwedd yn blaguro dan ei llywodraeth. Byddai yn ddifyrwch edrych ar deulu yn byw tan ddylanwad crefydd y gwr yn caru ei wraig, y wraig yn parchu ei gwr, ac yn ymostwng iddo, y tad yn peidio a chyffröi ei blant i'w digaloni, y plant yn ufuddhau i'w rhieni yn yr Arglwydd, y meistr yn rhoi bwgwth heibio, gan wybod fod iddo yntau feistr yn y nef, y gwas yn onest ac yn ffyddlawn yn absennoldeb ei feistr, gan ystyried ei fod dan lygad ei Feistr Crist. O deulu hapus! Mewn gwirionedd, yr unig feddyginiaeth effeithiol i'r byd yw crefydd Crist. Y mae hon yn gwella moesau ac arferion dynion. Gwir nad yw yn caniatâu rhodres mewn bywyd cyffredin, nac mewn defodau gwasanaeth, eto y mae yn magu ac yn meithrin cariad at yr hyn sydd brydferth mewn cyflawniadau crefyddol, ac mewn bywyd cyffredin. Y mae yn meithrin glanweithdra a moesau da, ac o ganlyniad, y mae y tlodion sydd dan ddylanwad crefydd yn fwy glanwaith na'r tlodion hollol ddigrefydd. Y mae crefydd y Testament Newydd a phob aflendid yn elynion i'w gilydd ; ac y mae yn beth ammheüus a all dyn fod yn uchel mewn crefydd, ac yn isel o ran ei foesau, ac yn fudr ei gorff a'i ddillad. Y mae crefydd yn dwyn gwrthddrychau glân a phrydferth i sylw y meddwl, ac wrth edrych arnynt y mae y meddwl yn dyfod i ymhyfrydu mewn prydferthwch. Y mae yn tueddu ei meddiannydd i edrych ar holl waith Duw, ác y mae yn canfod ei holl waith ef yn hardd a glân. Dylai y rhai sydd yn cyflawni gwasanaeth crefydd yn gyhoeddus, ofalu byw crefydd yn y golygiad hwn. Y mae yn ddirmyg ar grefydd mor lân fod dyn yn cyflawni ei gwasanaeth, â'i ddillad, neu ei wyneb, neu ei ddwylaw, yn fudr. Mae pob ymddygiad aflan yn addoliad Duw, yn hollol groes i lendid crefydd; y mae yn gweddu i ddysgawdwyr mewn pethau crefydd fod yn arddangosiad o'i symlrwydd, ei phurdeb, a'i phrydferthwch, yn mhob man, ac yn mhob peth. LLOFFION BARDDONOL. Y MAE rhifedi mawr o hen "Bennillion" anghymharol o brydferth mewn cof a chadw ymhlith y Cymry er ys oesoedd. Yr ydym wedi lloffa y rhai a ganlyn i'w gosod ger bron ein darllenyddion y tro hwn; ynghyd â chyfieithiad destlus i bob un, o waith Golygydd haeddbarch y "Cambro-Briton." Er mwyn yr anghyfarwydd, hwyrach y dylid hysbysu nad oes un cysylltiad rhwng y pennillion â'u gilydd. Ni chan côg ddim amser gaua', Clywais ddadwrdd, clywais ddwndro, Pan fo seren yn rhagori, Croeso'r gwanwyn, tawel cynnar; Hawdd yw d'wedyd dacw'r Wyddfa, Mae llawer afal ar frig pren, Ni thâl y mwydion dan ei groen, Da gan adar mân y coedydd; Da gan ŵyn feillionog ddolydd, Da gan i brydyddu'r hafddydd, Yn y llwyn, a bod yn llonydd. Gwedwch, fawrion o wybodaeth, Nid oes rhyngof âg ef heno Hiraeth mawr, a hiraeth creulon, Brith yw ser ar noswaith olau, Da yw'r gwaith, rhaid d'we'yd y gwir, Mae hi eto yn llawn llawenydd : Y sawl a feio arnaf, beied, Derfydd aur, a derfydd arian, Robin goch ddaeth at yr hiniog, Bum edifar, fil o weithiau, Er melyned gwallt ei phen, Gwybydded Gwen lliw'r ewyn, Bod llawer gwreiddyn chwerw 'n 'r ardd, Ac arno hardd flodeuyn. The birds delight upon the spray, Of what thing, say, is longing made, That thus it wastes not as you wear it? Betwixt us nought this night is seen, Save earth, a coffin, and a shroud; Much further from him oft I've been, Yet ne'er before with heart so cow'd. Longing's deep and cruel smart, Varied the stars when night are clear, The meadow's flowers, how lovely they, Is loveliness our neighbours' mong. On Meirion's hills (the truth to speak) Yet mirth and joy abound; Who is himself quite free from blame, Let him alone my faults proclaim; But those, whose faults we daily see, May spare their time to censure me. Gold and silver pass away, Richest garments perish fast, Poor Robin to my threshold hies, "Tis very cold, it soon will snow." A thousand times I have repented, Let Gwen know this, though she be fair, And boast her bright and flaxen hair, That bitterest roots are often found With fairest blossoms to abound, Ond ydyw hyn ryfeddod, Now is not this a wonder grown, That women lose their teeth so fast; WILLIAM SALESBURY. Y MAE ymddangosiad yr ail argraffiad o Destament William Salesbury yn rhoddi achlysur cyfaddas a galwad uchel i gyflawni yr hyn oeddym wedi ei fwriadu o'r blaen, sef anrhegu ein darllenwyr â chrynodeb o hanes un o brif gymwynaswyr ein gwlad; y cyntaf mewn trefn amser, ac nid yr olaf mewn teilyngdod, o gyfieithwyr hyglod yr Ysgrythyrau Sanctaidd i'r iaith Gymraeg. Nid gorchwyl hawdd yw hyn, gan fod y rhai sydd wedi mwynhau ffrwyth ei lafur, wedi bod yn esgeulus, tuhwnt i gyffredin, i gadw coffadwriaeth am ddim a berthyna iddo, heblaw ei enw yn unig: ac nid yw ysgrifenwyr yn cyttuno hyd yn nod am y dull o ysgrifenu ei enw; ceir ef weithiau yn Salisbury, neu yn Salusbury, a phryd arall yn Salsbri; ond y modd yr ysgrifenwyd ef ganddo ef ei hun yn niwedd ei gyfarchiad i'r Frenines Elizabeth, ac hefyd yn niwedd ei epistol "at yr oll Cembru,” yw Salesbury. Dywed Pennant, yn hanes ei deithiau yn Nghymru, fod y Salesburiaid wedi dyfod i Leweni, gerllaw Dinbych, cyn amser Harri y trydydd. Yn y rhifyn am Ebrill diweddaf o'r "Archæologia Cambrensis," ceir llythyr ar y mater hwn oddiwrth un "Germano Cambro Britannus," yr hwn a hòna berthynas â theulu y Salesburiaid. Yn ol ei dystiolaeth ef, yr oeddynt yn deilliaw o le a elwir Saltzbury, yn Bavaria, ac yn perthyn i deulu Bavaria, ac felly yn disgyn o Charlemagne. o Charlemagne. Adam de Saltzbury, medd efe, a sefydlwyd gan Harri yr ail yn Lleweni, pan gymerwyd y lle oddiar y Tywysog Dafydd. Ond yr hanes manylaf am hynafiaid William Salesbury yw yr un a gynnwysir yn ail lythyr Garmon, yn y "Gwyliedydd" am Mehefin, 1826, wedi ei ysgrifenu, fel y mae yn hysbys, gan y Parch. Walter Davies. Ac yn hytrach na'i anffurfio, trwy geisio ei ailgyfansoddi, mwy dewisol genym ni, ac yn ddiddadl mwy derbyniol i'n darllenwyr, fydd gadael Mr. Davies i lefaru yn ei iaith ei hun, yr hon sydd Gymraeg o'r fath oreu. * "Yn ol deongliad dameg fflangell y Philistiaid,-'Allan o'r bwytäwr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felysdra;' felly, oddiar wraidd y Saeson cleddyf-rudd, a'r Normaniaid saeth-annelawg, tarddodd irwydd cnydfawr, toreithiog o fendithion, tymmorol ac ysbrydawl, i Gymru dlawd a gorthrymedig. Ý Salsbriaid oeddynt o âch Normanaidd, a dywedir mai gyda Gwilym y Goresgynydd y daeth y cyntaf o'r enw i'r Ynys hon, yn y fil. 1066. Yn ol llyfrau yr Arwyddfeirdd, mab i'r Salsbri cyntaf yn Nyffryn Clwyd, oedd Ioan Salsbri, a fu farw yn y fl. 1089: a Mr. Peter Elis a ddywed mai mab i hwn oedd Syr Harri Ddu, enw tra adnabyddus i hen delynorion Gwynedd: ond Reinallt a ddywed mai y pedwerydd Salsbri yn Nghymru oedd yr Harri Ddu uchod, ac iddo briodi Nest, ŵyres i Ithel Fychan, a marw yn y fl. 1289. Trwy fynych ymbriodi ac ymgyfathrachu âg etifeddesau Cymreig, daeth y Salsbriaid, fel rhai Normaniaid gwiwgof eraill, o enwau Herbert, Stradling, Basset, Turberville, &c., |